Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth - hi oedd yn boblogaidd efo'r swots a'r bobol cAul. Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, a bellach mae'r cops dros bob man ym Methesda, a phawb yn ceisio dod o hyd iddi. Ond does ganddyn nhw fawr o obaith, dim a hwythau'n gwybod y nesaf peth i ddim am sut ferch oedd hi go iawn.